Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (118) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dechreuodd yr eitem am 14:17
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 9 ac 11 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 10.
3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad ynghylch sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 15:03
NDM5178 David Melding (Canol De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i awdurdodaeth ar wahân i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Rhagfyr 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod yr ysgogiadau economaidd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru.
2. Yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith gwledydd y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau.
4. Yn credu bod yn rhaid i’r Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1 dileu ‘yr’ cyn ‘ysgogiadau economaidd’ a chynnwys ar ddiwedd y pwynt: ‘er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod o dan reolaeth Llywodraeth y DU’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddechrau pwynt 2:
‘Yn croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar ôl i’r DU godi yn ddiweddar o’r degfed safle i'r wythfed safle ym Mynegai Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
8 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘ond yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod ysgogiadau economaidd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod o dan reolaeth Llywodraeth y DU.
2. Yn croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar ôl i’r DU godi yn ddiweddar o’r degfed safle i'r wythfed safle ym Mynegai Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith gwledydd y DU ac yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau.
5. Yn credu bod yn rhaid i’r Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
11 |
24 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
5. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16:43
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5179 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn:
1. Yn cydnabod effaith gymhleth ond negyddol yn bennaf diffyg twf economaidd a newidiadau i fudd-daliadau lles ar fenywod a theuluoedd yng Nghymru fel y nodwyd yn adroddiad Sefydliad Bevan ‘Women, work and the recession in Wales';
2. Yn nodi rhybudd Sefydliad Jospeh Rowntree fod Cymru yn wynebu degawd o dlodi;
3. Yn credu bod Llywodraeth y DU wedi dilyn y llwybr economaidd anghywir ers 2010, gan roi menywod a theuluoedd mewn perygl; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion Cuts Watch Cymru i liniaru ar effeithiau newidiadau mewn budd-daliadau tai i deuluoedd ac i ddatblygu cynllun i gefnogi menywod ifanc i gyflogaeth briodol sy’n talu'n dda er mwyn diwallu eu hanghenion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.38
6. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.42
NDM5175 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Cefnogi’r economi wledig.
Mae’r ddadl yn ymwneud â datblygu rhwydwaith bancio gwledig.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:02
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2013